Aeolis
Gwedd
![]() | |
Math | ardal hanesyddol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Twrci ![]() |
Cyfesurynnau | 39°N 27°E ![]() |
![]() | |
Roedd Aeolis (Groeg Αιολίς Aiolís) neu Aeolia (Groeg Αιολία Aiolía) yn ardal yng ngogledd-orllewin Asia Leiaf yn y cyfnod clasurol. Roedd y rhan fwyaf o'r diriogaeth gerllaw'r arfordir, ac roedd yn cynnwys ynys Lesbos) a nifer o ynysoedd llai. Roedd yn ffinio â Mysia yn y gogledd, Ionia yn y de a Lydia yn y dwyrain. Yn y cyfnod cynnar roedd y deuddeg dinas bwysicaf yn Aeolis yn annibynnol, ac mewn cynghrair a'i gilydd: Cyme (neu Phriconis), Larissae, Neonteichos, Temnus, Cilla, Notium, Aegiroessa, Pitane, Aegeaeae, Myrina, Gryneia, a Smyrna.
