Cliveden
![]() | |
Math | amgueddfa tŷ hanesyddol, tŷ bonedd Seisnig, gwesty mewn plasty gwledig ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Taplow |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Buckingham (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Afon Tafwys ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5583°N 0.6883°W ![]() |
Cod OS | SU9102885179 ![]() |
Rheolir gan | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Adfywiad y Dadeni, pensaernïaeth Eidalaidd ![]() |
Perchnogaeth | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, parc rhestredig neu ardd restredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Deunydd | Roman cement, terracotta ![]() |
Plasty ac ystad Eidalaidd yn Taplow, Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, ydy Cliveden. Fe'i lleolir ar lan Afon Tafwys, gyda'i thiroedd yn goleddu i lawr tua'r afon. Mae'r safle wedi bod yn gartref i Iarll, tair Iarlles, dau Ddug, Tywysog Cymru a'r Is-Ieirll Astor.
Pan yn gartref i Nancy Astor, defnyddiwyd y tŷ fel man cyfarfod gan Griw Cliveden, criw o ddeallusion gwleidyddol, yn ystod y 1920au a'r 1930au. Yn hwyrach yn ystod y 1960au, bu'n leoliad canolog yn y sgandal wleidyddol Helynt Profumo. Erbyn y 1970au, daeth yn eiddo i Brifysgol Stanford, Califfornia, a chafodd ei ddefnyddio fel campws tramor. Mae bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a chaiff ei logi fel gwesty pum seren.
Ystyr Cliveden ydy "dyffryn ymysg clogwyni"[1] a chyfeiria at y dyffryn sydd yng nghanol yr ystad, i'r dwyrain o'r plasty.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (1992) Brewer's Dictionary of Names: People Places and Things. Brewer, tud. 118. ISBN 978-1-85986-232-2